Canlyniadau TGAU 2018
Hoffwn longyfarch holl ddisgyblion a staff Ysgol Y Strade ar ganlyniadau TGAU calonogol eto eleni. Yn dilyn canlyniadau Safon Uwch gwych yr wythnos ddiwethaf, mae 64% o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi llwyddo i sicrhau’r Trothwy Lefel 2+ (5 TGAU gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg) a 82% o ddisgyblion wedi sicrhau 5 neu fwy o gymwysterau Lefel 2. Braf hefyd yw nodi bod 99% o’r garfan wedi llwyddo i sicrhau Trothwy Lefel 1 (5 TGAU A*-G) a 22% wedi llwyddo i ennill pump neu fwy o raddau A*/A. Mae disgyblion o bob gallu wedi llwyddo ac maent yn haeddu dathlu eu cyflawniad.
Ymhlith y nifer sylweddol o ddisgyblion a serennodd oedd y canlynol:
Enw | Graddau |
Dafydd Jenkins | 7A* 4A 1B |
Kelland Williams | 7A* 4A 1B |
Emma Kinzett | 6A* 5A 1B |
Oliver Stone | 6A* 5A 1B |
Geraint Jenkins | 6A* 4A 2B |
Rebecca Evans | 6A* 3A 3B |
Elen Daniels | 6A* 6A |
Eleri Rowlands | 5A* 5A 2B |
Beca Morgan | 5A* 5A 2B |
Faith Evans | 5A* 5A 2B |
Katie Jenkins | 5A* 4A 1B |
Gwilym Hubbard | 5A* 2A 2B |
Edrychwn ymlaen at groesawu’r myfyrwyr yn ôl i’r chweched dosbarth er mwyn cychwyn ar eu hastudiaethau Safon Uwch. Llongyfarchiadau i chi gyd!