Cymraeg Iaith

Rhagair

Mae’r cwrs iaith yn rhoi cyfle i’r disgyblion ehangu a datblygu ymhellach eu sgiliau sylfaenol, sef llafar (siarad a gwrando), darllen ac ysgrifennu fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn effeithiol, hyderus a chywir mewn amrywiol sefyllfaoedd.

Ceisir meithrin ynddynt agwedd gadarnhaol tuag at yr iaith a sicrhau eu bod yn cael mwynhad o drin a thrafod a chreu yn y Gymraeg.

Manylion Asesu

Mae tair rhan i’r cynllun asesu:

  • Asesiad terfynol o waith llafar 30%
  • Asesiad terfynol o Ddarllen ac Ysgrifennu 40%
  • Asesiad dan reolaeth darllen ac Ysgrifennu 30%

Bydd angen ymarfer cyson i baratoi tuag at yr asesiad llafar, a bydd angen cyflawni tair tasg ar gyfer y gwaith cwrs. Golyga hyn bod yn rhaid gweithio’n gyson ar hyd y ddwy flynedd.

Bwrdd Arholi

 Pennaeth Adran: Mrs Lowri Davies