Addysg Gorfforol
Rhagair
Mae Addysg Gorfforol wedi datblygu’n bwnc sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at ffordd o fyw, hamdden a chyfleoedd gyrfa. Gallwn ei ystyried yn bwnc cytbwys, heriol a phwrpasol.
Bwriad y cwrs TGAU Addysg Gorfforol yw:-
Datblygu a mwynhau cymryd rhan mewn ac astudio gweithgareddau corfforol.
- Datblygu hunan-ddyfalbarhád, parch tuag at eu hunain ac eraill, a hynny mewn ffordd fywiog a byw.
- Dewis gweithgareddau ymarferol sy’n ystyried eu cyrhaeddiad blaenorol a diddordeb presennol.
Asesu
Uned 1: Cyflwyniad i addysg gorfforol
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
50% o’r cymhwyster 100 marc
Asesir dysgwyr drwy amrywiaeth o gwestiynau byr ac estynedig. Bydd y cwestiynau yn seiliedig ar ysgogiadau clyweled a ffynonellau eraill.
Uned 2: Y cyfranogwr gweithredol mewn addysg gorfforol
Asesu di-arholiad
50% o’r cymhwyster 100 marc
Asesir dysgwyr mewn tri gweithgaredd gwahanol yn rôl perfformiwr mewn o leiaf un gamp ar gyfer unigolyn, un gamp ar gyfer tîm ac un arall. Bydd un gweithgaredd yn brif weithgaredd fydd â rhaglen ffitrwydd bersonol yn gysylltiedig â’r gweithgaredd.