Busnes (TGAU)

Rhagair

Amcan y cwrs yw galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o’r ffordd mae busnesau yn gweithredu mewn amgylchfyd newidiol, cystadleuol a dynamig. Mae’r cwrs yn rhoi dealltwriaeth o theori ac ymarfer busnesau presennol ac mae’n adlewyrchu natur gyd-ddibynnol busnesau.

CYNNWYS Y CWRS (gydag enghreifftiau o fusnesau sy’n cael eu hastudio)

1. Gweithgaredd Busnes Rôl entrepreneur, mathau gwahanol o fusnesau e.e. unig fasnachwr, partneriaeth, cwmnïau cyfyngedig a busnesau trwydded
2. Dylanwadau ar Fusnes Dylanwadau allanol fel yr economi a thechnoleg ar fusnesau. Cyfryngau digidol a chymdeithasol. Globaleiddio a’r Undeb Ewropeaidd.
3. Gweithgaredd Busnes Dulliau cynhyrchu, rheoli stoc ac ansawdd, y broses werthu, swyddogaethau adrannau.
4. Cyllid Ffynonellau cyllid e.e. benthyciad, rhagolwg llif arian, cyfrif elw a cholled, siart adennill costau.
5. Marchnata Ymchwil marchnata, adnabod y cwsmeriaid, y gymysgedd farchnata yn cynnwys dulliau hyrwyddo.
6. Adnoddau Dynol Recriwtio, hyfforddiant, cymhelliant, strwythur sefydliadol, cyflogau.

Asesu

Dau bapur ysgrifenedig ar bob agwedd o’r fanyleb;

  • Uned 1 – Byd Busnes (62.5%)
  • Uned 2 – Canfyddiadau Busnes (37.5%)

Pam dewis Astudiaethau Busnes?

Mae’n bwnc sy’n :

  • Datblygu ein dealltwriaeth o’r byd gwaith
  • Amlygu sgiliau mae cyflogwyr eisiau e.e. dadansoddi data, sgiliau cyfathrebu, datrys problemau â’r gallu i feddwl yn annibynnol
  • Ymdrin â materion cyfoes a phwysig
  • Amlinellu ein cyd-ddibyniaeth fel pobl, busnesau ac amgylcheddau
  • Ein helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas trwy astudio busnesau amlwladol

Corff Arholi

 Pennaeth Adran: Mr Daniel Hughes