Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plentyn

Cynnwys y cwrs

Bydd y cymwysterau’n sicrhau bod dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiad a gofal unigolion o genhedliad i henaint.
Bydd dysgwyr yn dod i ddeall sut mae darpariaeth gwasanaethau yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion.
Cyflwynir dysgwyr hefyd i amrywiaeth eang o rolau o fewn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant a fydd yn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r llwybrau gyrfaol sydd ar gael iddyn nhw.

Bydd y TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol) yn ymdrin â thestunau allweddol fel:

  • twf, datblygiad a llesiant dynol
  • hybu a chynnal iechyd a llesiant

Bydd y TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Dwyradd) yn ymdrin â thestunau ychwanegol fel:

  • iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn yr 21ain ganrif
  • hybu a chynnal iechyd a llesiant i gyflawni canlyniadau cadarnhaol

Asesu

Bydd y TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol) yn cynnwys dwy uned orfodol.
Bydd y TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Dwyradd) yn cynnwys pedair uned orfodol.
Asesir y cymwysterau hyn yn allanol ac yn fewnol.

Cyfleoedd pellach

Gallai’r dysgwyr hynny sy’n cwblhau’r TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant symud ymlaen i gymwysterau eraill yn y dyfodol.

Gallai fod ganddyn nhw ddiddordeb hefyd mewn symud ymlaen i astudiaeth a/neu hyfforddiant pellach mewn meysydd yn cynnwys; Cymdeithaseg, Seicoleg a Gwyddor Feddygol.

Bwrdd Arholi

 Pennaeth Adran – Mrs Rhian Rees-Jones