Cymeradwyo
Mae cymeradwyo yn ffactor allweddol mewn addysg plentyn:
- Rhoddir cymeradwyaeth yn rheolaidd am waith da a gyflawnwyd – naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig yn y llyfrau ysgrifennu neu’r Llyfr Cyswllt.
- Cofnodir gwaith da, ymddygiad da a chyraeddiadau yn yr Adroddiadau ac ar lafar.
- Cydnabyddir gwahanol fathau o lwyddiant yn y gwersi Bugeiliol, y Gwasanaethau Blwyddyn neu’r Gwasanaeth Llawn.
- Arddangosir gwaith disgyblion gymaint â phosib.
- Croesawir y cyfle i roi clod i unigoliongan y Pennaeth, y Dirprwy a’r Penaethiaid Safonau.
- Hybir disgyblion i gymeryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Pan fydd rhaid cosbi gwneir hyn mewn gwahanol ffyrdd:
- Gwaith cartref ychwanegol.
- Cadw i mewn amser egwyl/cinio.
- Arolwg dyddiol.
- Tynnu allan o wersi am gyfnod.
Mae gan yr Ysgol gamau gweithredu pendant i ddelio â gwahanol droseddau.
- Problemau pob dydd, llai difrifol:
Athro Dosbarth/Pennaeth Safonau - Problemau disgyblaeth difrifol:
Uwch Dîm Arwain ac yna’r Pennaeth lle na bydd gwelliant yn digwydd.
Pan fydd angen, cysylltir â’r rhieni a’u gwahodd i’r ysgol i drafod ymddygiad eu plentyn. Bydd yr Awdurdod yn caniatau i ysgol wahardd disgyblion o’r ysgol am gyfnod penodedig mewn rhai amgylchiadau eithriadol.