Drama

Rhagair

Mae’r cwrs Drama yn cynnwys amrywiaeth o waith ymarferol, ymateb ysgrifenedig i berfformiad ac astudiaeth o ddramâu amrywiol. Bydd rhaid ymweld gyda’r theatr yn gyson a gwylio dramâu addas ar ffilm a theledu, er mwyn gwerthfawrogi perfformiad.

Bydd gwaith byrfyfyr yn rhan bwysig o’r cwrs er mwyn datblygu sgiliau perfformio o fewn grŵp ac fel unigolyn. Golyga hyn gryn dipyn o hunan ddisgyblaeth.

Asesu

Dyfeisio Theatr

40%

Perfformio Theatr

20%

Dehongli Theatr

40%

Gweithio mewn grŵp i ddyfeisio perfformiad.

Gweithio ar thema arbennig ac astudio technegwyr drama.

Cwblhau gwerthusiad ysgrifenedig.

Asesiad di-arholiad.

Perfformiad yn seiliedig ar ddau ddarn 10 munud o destun o’u dewis.

Arholiad Ysgrifenedig

1 ½ awr.

Astudio un ddrama o safbwynt actor, cyfarwyddwr a chynllunydd technegol.

Adolygiad o theatr fyw.

Pam astudio Drama?

  • Magu mwy o hyder
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau actio a sgiliau cyfathrebu sydd yn bwysig iawn ar gyfer unrhyw swydd.
  • Cyfle i ddatrys problemau a gwneud gwaith grŵp
  • Cynyddu dealltwriaeth o fyd y ddrama a byd y theatr
  • Cael boddhad mawr wrth greu tasg ymarferol
  • Dysgu sut i werthuso yn aeddfed.
  • Deall a dadansoddi safbwyntiau gwahanol
  • Gall disgybl o bob gallu fod yn llwyddiannus yn y pwnc

Corff Arholi

 Pennaeth Adran: Miss Nia Griffith