Dylunio a Thechnoleg
Rhagair
Mae Dylunio a Thechnoleg bellach yn bwnc eang iawn sydd yn ei gyfanrwydd yn ymwneud a llawer o faesydd astudio.
Ar y cyrsiau mae cyfle unigryw i ymgeiswyr ddarganfod a datrys problemau, trwy ddylunio a gwneud cynhyrchion mewn amrywiaeth eang o gyd-destynau yn ymwneud â diddordebau personol.
Mae Dylunio a Thechnoleg yn datblygu sgiliau creadigol ymgeiswyr yn ogystal â phob un o’r chwe Sgil Allweddol ac yn eu galluogi i feddwl mewn ffordd ddyfeisgar, clir ac arloesol.
Gall ymgeiswyr astudio y cwrs mewn
1 o 3 ardal ffocws:
Asesu
Uned 1: Dylunio a Thechnoleg yn yr 21ain Ganrif
Arholiad ysgrifenedig: 2 awr (50% o’r cymhwyster)
Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ysgrifennu estynedig sy’n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ymgeiswyr am un maes a ddewiswyd o’r canlynol:
- dylunio peirianyddol
- ffasiwn a thecstilau
- dylunio cynnyrch
Uned 2: Tasg Dylunio a Gwneud
Asesiad di-arholiad: tua 35 awr (50% o’r cymhwyster)
Tasg dylunio a gwneud ddwys a manwl, yn seiliedig ar her gyd-destunol a osodir gan CBAC, sy’n asesu gallu ymgeiswyr i: nodi, ymchwilio, dadansoddi ac amlinellu posibiliadau dylunio dylunio a gwneud prototeipiau a gwerthuso eu haddasrwydd i’r pwrpas