Teithio a Twristiaeth

Rhagair

Mae’r sector teithio a thwristiaeth werth dros $US7.6 triliwn i economi’r byd ac yn cyflogi dros 292 miliwn o bobl yn fyd-eang.  Nod y cymhwyster yma yw darparu cwrs sy’n gysylltiedig â gwaith yn y sector teithio a thwristiaeth.  Fe’u datblygwyd i ddarparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith.

Cynnwys y Cwrs

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r agweddau canlynol:

  • Sector diwydiant teithio a thwristiaeth a’r effaith ar yr economi
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Daearyddiaeth cyrchfannau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol
  • Ymwybyddiaeth fusnes

Asesu

Yn ystod y cwrs, fe fydd y disgyblion yn astudio’r unedau canlynol: –

Uned Asesu
Uned 1 – Y Sector Teithio a Thwristiaeth yn y DU Arholiad allanol
Uned 2 – Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth y DU Gwaith cwrs
Uned 4 – Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol Gwaith cwrs
Uned 5 – Ffactorau sydd yn Effeithio Teithio a Thwristiaeth Byd-Eang Gwaith Cwrs

Bydd y disgyblion yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 sydd yn cyfateb ag un TGAU llawn.  Mi fydd y cymhwyster yn cael ei raddio fel yr isod:

Gradd: Cyfateb a gradd TGAU:

Anrhydedd

A

Teilyngdod

B

Llwyddo

C

Mi fydd y cymhwyster yn cael ei asesu drwy arholiad allanol sydd yn cael ei osod gan Edexcel Pearson a gwaith cwrs mewnol.

Corff Arholi

 Pennaeth Adran: Mrs Emma Roberts