Yn ystod y tymor nesaf bydd eich plentyn yn cael cyfle i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r pynciau y maent am eu hastudio ym Mlwyddyn 10 ac 11.
Yn ystod y cyfnod yma bydd y disgyblion yn gwneud ymarferion mewn gwersi tiwtorial i’w galluogi i ddod i adnabod eu hunain yn well ac i ddarganfod o ble i gael cymorth a gwybodaeth berthnasol am yrfâu a dewisiadau.
Mae’n rhaid i bawb astudio’r pynciau (craidd) canlynol: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae’r cwricwlwm ym mlwyddyn 10 wedi’i gynllunio fel bod gan bob disgybl yr hawl i ddewis tri phwnc ychwanegol i’r pynciau craidd.
Gobeithio bydd gwybodaeth ‘Llwybrau Dysgu 14+’ ar y wefan (http://bit.ly/llwybrau-dysgu-14) â’r Noson Opsiynau Blwyddyn 9 ar 14/3/19 am 6 o’r gloch o gymorth i chi wrth wneud eich penderfyniadau. Mae rhestr o’r pynciau opsiwn wedi’i chynnwys gyda’r llythyr hwn er gwybodaeth i chi wrth ddewis pynciau.
Bydd yna gyfle yn y Noson Rieni ar nos Iau, Mawrth 21ain i drafod gydag athrawon cyn gwneud y dewis terfynol.
Pynciau Craidd/Core Subjects
· Cymraeg/Welsh
· Saesneg/English · Mathemateg a Rhifedd/Mathematics and Numeracy · Gwyddoniaeth/Science · Astudiaethau Crefyddol*/Religious Education* · Cymhwyster Bagloriaeth Cymru/Welsh Baccalaureate Qualification |
*ar gael fel opsiwn TGAU llawn/*available as an optional full GCSE
Pynciau Dewisol/Optional Subjects
Bydd angen penderfynu ar 3 pwnc dewisol/You will need to select 3 optional subjects
Addysg Gorfforol/Physical Education
Busnes/Business Busnes Adwerthu(BTEC)Business and Services (BTEC) Celf a Dylunio/Art and Design Cerddoriaeth/Music Chwaraeon (BTEC)/Sport (BTEC) Daearyddiaeth/Geography Teithio a Thwristiaeth (BTEC)/Travel and Tourism (BTEC) Hanes/History Ieithoedd Modern/Mordern Foreign Languages
Iechyd a cofal cymdeithasol/Health and Social Care
Bwyd a Maeth/Food and Nutrition Dylunio a Thechnoleg/Design and Technology
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu/Information and Communication Technology |
Cyrsiau Galwedigaethol Partneriaeth â Choleg Sir Gâr
Adeiladwaith/Construction |
Gwallt a Harddwch /Hair and Beauty |