Ffrangeg a Sbaeneg
Rhagair
Bwriad y cwrs Ffrangeg a Sbaeneg yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion wnaeth fwynhau ieithoedd modern yng nghyfnod allweddol 3. Y mae’n gwrs byrlymus, llawn hwyl sydd yn rhoi llawer o bwyslais ar yr ymarferol ac annog y disgyblion i ddefnyddio’r iaith ar lafar o fewn yr ystafell ddosbarth a thu allan ar deithiau i’r wlad darged. Ceir cyfle i astudio pynciau cyfoes wrth ymarfer yr iaith ar lafar a dysgu sgiliau newydd megis cyfieithu.
Asesu
Arholiadau ar ddiwedd Blwyddyn 11 yn y 4 sgil.
- Llafar – 25%
- Ysgrifennu – 25%
- Darllen – 25%
- Gwrando – 25%
Pam astudio ieithoedd?
- Mae’n eich helpu i gael swydd dda a chyflog uchel mewn amryw ddiwydiannau megis marchnata, busnes, addysg, twristiaeth, gwleidyddiaeth a pheirianneg.
- Cewch gyfle i fynd ar daith i’r wlad a blasu’r diwylliant.
- Mae’n TGAU sy’n cael ei pharchu gan brifysgolion a chyflogwyr byd-eang.
- Cewch deithio’r byd.
- Mae’n HWYL