Gwisg yr Ysgol
Gofynnir i rieni sicrhau bod disgyblion yr ysgol yn cadw at y wisg gywir ar bob achlysur. Ni oddefir unrhyw ymdrech ar ran disgybl i dynnu sylw at ei hun drwy ei ymddangosiad. Bydd eitemau nad sy’n cydymffurfio â’r wisg ysgol yn cael eu cadw am gyfnod.
Pob disgybl
- Tei yr ysgol.
- Siwmper nefi gwddf ‘v’ gyda logo’r ysgol wedi’i frodio arno – nid cardigan. Esgidiau du.
- Ni chaniateir esgidiau ffabrig e.e ‘Vans’/’Converse’ na thrainers. Sawdl heb fod yn rhy uchel i’r merched.
- Dillad allanol synhwyrol – byddai cot unlliw, dywyll yn ddymunol. Ni chaniateir siacedi denim na lledr.
Ni chaniateir i ddisgybl wisgo:
- Unrhyw fath o ‘drainers’
- Clustdlysau – dim ond styds yn unig – un ym mhob clust, i’w gwisgo ar waelod y glust yn unig.
- Styds na modrwy ar unrhyw ran arall o’r corff e. y trwyn, aeliau a.y.b.
- Mwy nag un fodrwy ar bob llaw.
- Siwmper/crys chwys/hwdi/siaced lliw o unrhyw fath
- Esgidiau heb sanau/teits.
- Crys/blows tu allan i drowsus/sgert
- Colur
- Gwallt wedi’i liwio neu’i steilio’n eithafol.
Polisi gwisg
Os na fydd disgybl yn dod â’u gwisgoedd Addysg Gorfforol a does dim llythyr o esboniad ganddynt i’w hesgusodi bydd yr adran yn darparu gwisg.
Fe fydd gofyn i ddisgyblion sydd wedi ei anafu neu yn sâl i newid yn chit ymarfer corff. Bydd y disgyblion yma yn cael eu defnyddio i hyfforddi a recordio canlyniadau. Penderfyniad yr adran ydyw i esgusodi disgybl yn dibynnu ar y rheswm. Fe fydd
yr adran yn dilyn camau disgyblu os fydd y disgyblion yn anghofio eu cit.
Merched
- Blows – gwyrdd
- Sgert – nefi; hyd heb fod yn rhy fyr nac yn rhy dynn – dim sgert ‘lycra’
- Trowsus – nefi; steil addas, ni chaniateir trowsus ‘skinny’
- Sanau – sanau nefi / teits nefi trwchus
Ymarfer Corff:
- Crys t coch swyddogol
- Siorts tyn neu llac/legins du swyddogol – Dim sgorts
- Esgidiau addas
- Crys chwys swyddogol
Bechgyn
- Crys – gwyn
- Trowsus – du/llwyd tywyll
- Sanau – du/llwyd/gwyn
Ymarfer Corff:
- Crys rygbi gwyrdd a choch swyddogol
- Crys-t ymarfer corff swyddogol shorts gwyrdd swyddogol ‘Skins’ coch swyddogol
- Sanau rygbi coch