Hanes

Rhagair

Beth yw Gwerth Astudio Hanes?

  • Datblygu sgiliau addysgiadol megis darllen a deall, dadansoddi, distyllu ac allosod.
  • Cyflwyno myfyrwyr i syniadau pwysig megis newid a pharhâd ac achos a chanlyniad.
  • Deall bod gwahanol ddehongliadau mewn hanes.
  • Hanfodol i ddeall y byd rydym yn byw ynddo.
  • Esbonio sut mae ein hardal wedi datblygu.
  • Ein helpu i fod yn well dinasyddion.

Cynnwys y cwrs ag Asesu

Y mae dair rhan i’r cwrs

1. Astudiaeth Fanwl – dau bapur arholiad, awr yr un. (25% yr un o’r cymhwyster)

a) Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad 1930-1951

  • Effaith Blynyddoedd y Dirwasgiad
  • Effaith yr Ail Ryfel Byd ar y Ffrynt Cartref
  • Datblygiadau Gwleidyddol, Economaidd a Chymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd

a) Yr Almaen Mewn Cyfnod o Newid 1919-1939

  • Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf a gwendidau Gweriniaeth Weimar
  • Ymddangosiad y Blaid Natsïaidd ac Atgyfnerthu Grym 1929-1934
  •  Bywyd pobl yr Almaen yn Newid 1933-1939
  • Polisi Tramor Hitler hyd at 1939

2. Astudiaeth Thematig o berspectif hanesyddol eang – un papur arholiad, awr a phymtheg munud (30% o’r cymhwyster)

  • Newidiadau ym maes Iechyd a Meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw
  • Prif achosion afiechyd – e.e Y Pla Du
  • Ymdrechion i drin a gwella afiechydon – datblygiad anaesthetig, Marie Curie
  • Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol – datblygu technegau sganio yn ystod yr ugeinfed ganrif, Pelydrau X, MRI, Darganfod DNA

3. Gwaith Cwrs – Asesiad Di-arholiad (20% o’r cymhwyster)

  • Merched Beca

Corff Arholi

 Pennaeth Adran: Mrs Heulwen Jones