Trefniadau dyddiol

Salwch

Wrth ddychwelyd i’r ysgol ar ôl absenoldeb, bydd yr ysgol yn gofyn am nodyn o eglurhad yn y Llyfr Cyswllt i Athro Dosbarth y disgybl neu fe ellir ffonio un o’r ysgrifenyddion yn y Swyddfa (Llanelli 745100).

Cytundeb Cartref-Ysgol

Mae’r Ysgol am i rieni fod yn ymwybodol o’n Cytundeb Cartref-Ysgol sy’n diffinio cyfrifoldebau’r Myfyrwyr, y Rhieni a’r Ysgol. Cyfeirir hefyd at bolisi E-diogelwch yr ysgol. Mae hwn ar gael yn y Llyfr Cyswllt. Mae’r adran ‘’Safonau yn yr Ysgol” ar ddechrau’r Llyfr Cyswllt yn nodi’r hyn a ddisgwylir gan y disgyblion ac yn tynnu sylw at gyfrifoldeb rhieni. Dyma gyfle i rieni chwarae rhan weithredol yn addysg eu plant.

Cyfathrebu â Rhieni

Anogir rhieni i gysylltu â’r Ysgol ynglŷn ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chynnydd eu plentyn. Dosberthir Calendr Ysgol i rieni ar ddechrau’r flwyddyn sy’n tynnu sylw at ddigwyddiadau pwysig. Mae gwefan yr Ysgol (www.ysgolystrade.org) yn hyrwyddo’r Ysgol y tu hwnt i’r gymuned leol.

Cymeradwyo

Mae cymeradwyo yn ffactor allweddol mewn addysg plentyn:

  • Rhoddir cymeradwyaeth yn rheolaidd am waith da a gyflawnwyd – naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig yn y llyfrau ysgrifennu neu’r Llyfr Cyswllt.
  • Cofnodir gwaith da, ymddygiad da a chyraeddiadau yn yr Adroddiadau ac ar lafar.
  • Cydnabyddir gwahanol fathau o lwyddiant yn y gwersi Bugeiliol, y Gwasanaethau Blwyddyn neu’r Gwasanaeth Llawn.
  • Arddangosir gwaith disgyblion gymaint â phosib.
  • Croesawir y cyfle i roi clod i unigolion gan y Pennaeth, y Dirprwy a’r Penaethiaid Safonau.
  • Hybir disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.

Pan fydd rhaid cosbi gwneir hyn mewn gwahanol ffyrdd:

  • Gwaith cartref ychwanegol.
  • Cadw i mewn amser egwyl/cinio.
  • Arolwg dyddiol.
  • Tynnu allan o wersi am gyfnod.

Mae gan yr Ysgol gamau gweithredu pendant i ddelio â gwahanol droseddau.

  • Problemau pob dydd, llai difrifol:
    Athro Dosbarth/Pennaeth Safonau
  • Problemau disgyblaeth difrifol:
    Uwch Dîm Arwain ac yna’r Pennaeth lle na bydd gwelliant yn digwydd.

Pan fydd angen, cysylltir â’r rhieni a’u gwahodd i’r ysgol i drafod ymddygiad eu plentyn. Bydd yr Awdurdod yn caniatau i ysgol wahardd disgyblion o’r ysgol am gyfnod penodedig mewn rhai amgylchiadau eithriadol.

Lles disgyblion

Bydd disgybl wrth symud i’r Ysgol Gyfun yn symud o awyrgylch fach i sefyllfa llawer mwy o ran nifer y disgyblion a’r adeiladau. Fel canlyniad mae’n siwr o deimlo ychydig yn ansicr ar y dechrau.

Rhaid sicrhau felly y bydd y disgybl yn teimlo ei fod yn rhan o’r ysgol, a bydd yn bwysig i ddiogelu hyn yn enwedig gyda thyfiant yr ysgol.

Mae Tiwtor Dosbarth yn gyfrifol am bob grŵp a bydd yr athro/athrawes yn gyfrifol am gofrestru’r plant yn y bore a’r prynhawn, ac i gadw golwg ar ddatblygiad academaidd ac ymddygiad y plant o dan ei ofal. Bydd y Pennaeth Safonau yn gyfrifol am gysylltu gwaith y Tiwtoriaid Dosbarth.